Home
what we do
Lorna
Mae Lorna yn 15 oed ac yn byw mewn pentref yn ne Cymru

Does dim llawer i’w wneud yma a dweud y gwir, felly weithiau dwi a’m ffrindiau yn mynd i dai ein gilydd i gael diod. Fel arfer rydyn ni’n aros nes i’n rhieni fynd allan fel na fyddwn yn mynd i drwbl.
Profais alcohol am y tro cyntaf pan oeddwn yn 12. Mae’n hawdd cael gafael arno. Gallwch gael alcohol a sigaréts gan lawer o bobl o gwmpas fan hyn. Cafodd un o fy ffrindiau brynu diod mewn siop heb i neb ofyn am brawf oedran. Mae hi’n 16.
Mae yfed yn gwneud i chi deimlo wedi ymlacio a ‘chydig bach yn ddwl. Rydyn ni’n dechrau cwympo o gwmpas a gwneud sbort am ein gilydd.
Mae dwy o’m ffrindiau yn yfed bob penwythnos. Roedd un ffrind wedi meddwi yn y parc ac roeddem yn poeni rhag ofn byddai rhywbeth yn digwydd. Roedd hi’n cymysgu gyda chriw drwg. Meddwodd ffrind arall a doedd hi ddim yn gwybod beth oedd hi wedi’i wneud na phwy oedd hi wedi ffonio.
Rydych chi’n gweld llawer o bobl yn meddwi yn y strydoedd ac mewn cylchgronau. Os ydyn nhw’n enwog, rydych chi’n dueddol o’u hedmygu. Maen nhw’n enwog iawn am wneud pethau da felly os ydych chi’n eu gweld nhw’n cymryd cyffuriau, rydych chi’n meddwl bod hynny’n dda hefyd. Mae’n ddelwedd wael ar gyfer ein hoedran ni. Rydyn ni’n mynd allan ac yn gwneud yr un fath gan ein bod yn meddwl ei fod yn cŵl. Mae rhai ohonom wedi ceisio mentro mewn i glybiau nos. Rwy’n gwybod y gallem gael ein harestio neu y gallai’r heddlu dod i’n tŷ. Mae hynny’n fy mhoeni.
Yn yr YWCA rydym wedi dysgu beth all ddigwydd wrth yfed. Roedd yn rhaid i ni wisgo gogls cwrw sy’n gwneud i chi deimlo fel person wedi meddwi. Ceisiom gerdded mewn llinell syth, rhoi rhwymyn ar berson, a gwneud galwad ffôn. Roedd pawb yn syrthio dros y lle. Mae’n realistig iawn. Dwi ddim wedi meddwi’n iawn erioed, dim ond bod ychydig yn tipsi. Dwi ddim am i unrhyw beth drwg ddigwydd. Mae’n gwneud i mi feddwl ddwywaith.
fact

Heavy drinkers are more likely to abuse their intimate partner
ffaith

Mae 40% o bobl ifanc yn adnabod merched y mae eu cariadon wedi eu gorfodi neu wedi rhoi pwysau arnynt i gael rhyw.
dyfyniad
"Cyn i mi ddod i'r YWCA roeddwn yn cael fy mwlio a phrin yn siarad gydag unrhyw un. Mae'r YWCA wedi rhoi hyder i mi wynebu sialensiau."Lorna, 15

Have your say
0 comments so far - Add a comment
Thank you for your comment. In a moment you will receive an email asking you to confirm that you submitted the comment. When you've confirmed this, our moderators will check it and if it is approved it will appear on the website after that.