YWCA England & Wales

YWCA is the leading charity working with the most disadvantaged young women in England and Wales.
YWCA ywr brif elusen syn gweithio gydar menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Welsh

hafan

YWCA Cymru a Lloegr

YWCA yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda’r menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Mae menywod ifanc yn wynebu problemau unigryw yng nghymdeithas heddiw. Nid yw eu lleisiau yn cael eu clywed yn aml, ac nid oes ganddynt ddylanwad.

Rydym am weld dyfodol lle gallant oresgyn rhagfarnau a rheoli eu bywydau eu hunain.

Rydym yn cynnal gwasanaethau i’w cefnogi ac yn ymgyrchu gyda hwy i herio’r camwahaniaethu y maent yn ei wynebu.

Dywed menywod ifanc sy’n mynychu ein canolfannau eu bod yn gwerthfawrogi’r YWCA oherwydd ei fod ar gyfer menywod yn unig. 

Maent yn hoffi cael amser ar wahân i fechgyn a dynion; mae’n eu galluogi i adeiladu hunan-barch a chyfeillgarwch cryf. Gallant siarad yn agored am bethau sy’n bwysig iddynt mewn awyrgylch lle maent yn gwybod na fyddant yn cael eu barnu.

“Roedd yr YWCA o gymorth i mi godi fy hyder a’m hunan barch.â€
Jenny, 19 oed

Mae YWCA yn elusen gofrestredig, rhif 217868
Mae’r YWCA yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 137113.

Polisi iaith Gymraeg

DaffMae YWCA Cymru a Lloegr wedi ymrwymo at wasanaethu merched a menywod ifanc yng Nghymru ac amddiffyn eu hetifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.

Fodd bynnag, elusen fechan yw'r YWCA, yn gyfyngedig o ran adnoddau ariannol a dynol, ac ni fedrwn ar hyn o bryd gynnig ein holl wybodaeth arlein yn Gymraeg. Ymddiheurwn wrth siaradwyr Cymraeg am y nifer cyfyngedig o dudalennau Cymraeg sydd ar gael ar y safle. Am gopi o'n polisi iaith Gymraeg, anfonwch ebost atom.

Share

dyfyniad

"Rwyf am ddweud wrth bobl faint mae mynychu'r YWCA wedi ei olygu i mi.  Mae dod yma wedi newid fy mywyd." Louise

 

cefnogwch ni

ffaith

ffaith

Cododd y nifer o oedolion dros 16 a dderbyniwyd i ysbytai'r GIC â diagnosis sylfaenol neu eilaidd cysylltiedig gydag alcohol o 89,280 yn 1995/6 i 187,640 yn 2005/6